Mae ein hymchwiliadau wedi canfod bod rhai cyflogwyr yn gwneud camgymeriadau cyffredin drwy hepgor camau pwysig o ran cyfrifo cyfraniadau pensiynau a chyfathrebu i staff.
Mae'r gwallau allweddol yn cynnwys:
- defnyddio trothwyon enillion anghywir
- gwallau mewn cyfathrebu i staff am gofrestru awtomatig
- camgyfrifo cyfraniadau i staff sy'n derbyn tâl mamolaeth
Defnyddio trothwyon enillion anghywir
Bob blwyddyn, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adolygu'r trothwyon enillion ar gyfer cofrestru'n awtomatig. Rydym yn diweddaru trothwyon enillion ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol gyda'r trothwyon newydd wedi i'r Adran Gwaith a Phensiynau eu cyhoeddi.
Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn defnyddio'r trothwyon enillion cywir gan y gallai camgymeriadau yma roi eich staff mewn perygl o beidio â derbyn y cyfraniadau pensiynau sy'n ddyledus iddynt.
Camgymeriadau mewn cyfathrebu i staff
Byddwch yn ymwybodol hyd yn oed os ydych chi wedi cofrestru staff cymwys yn llwyddiannus yn eich cynllun pensiwn a gwneud cyfraniadau rheolaidd, gallai gwallau yn eich cyfathrebiadau i staff eich rhoi mewn perygl o beidio â chydymffurfio.
O fewn 6 wythnos ar ôl i ddyddiad dechrau eich dyletswyddau, eich dyletswydd gyfreithiol chi yw ysgrifennu at eich holl staff yn unigol i egluro sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddynt.
Dylech sicrhau eich bod yn gwirio'n gwybodaeth ar ysgrifennu at eich staff. Defnyddiwch ein templedi llythyr i'ch helpu i gyfathrebu i'ch staff.
Camgyfrifo cyfraniadau i staff sy'n derbyn tâl mamolaeth
Sut i osgoi gwallau cyffredin
Sicrhewch eich bod yn osgoi gwneud y gwallau cyffredin hyn gan y gallent eich rhoi mewn perygl o beidio â chydymffurfio a gallent fod yn gostus. Er enghraifft, bydd angen i chi ôl-ddyddio'r holl daliadau ar gyfer eich staff sydd wedi bod yn derbyn cyfraniadau anghywir ac mewn rhai achosion gall y camgymeriadau hyn arwain at gosbau ariannol.
Dylech chi:
- wirio'ch dyletswyddau parhaus i osgoi hepgor camau pwysig
- wrth gwblhau ail-gofrestru, y mae'n rhaid i chi ei wneud bob tair blynedd, dylech wirio bod eich systemau a'ch prosesau yn gyfredol ac yn rhedeg yn llyfn.
Cofiwch, ail-gofrestru ac ail-ddatgan yw eich dyletswyddau cyfreithiol ac os nad ydych yn gweithredu fe allech gael dirwy.
Rydym yn gwybod bod y mwyafrif o gyflogwyr eisiau gwneud y peth iawn i'w staff. Ceisiwch osgoi dirwyon anfwriadol a/neu hysbysiadau cosb drwy ddilyn y canllawiau perthnasol ar ddyletswyddau pensiwn yn y gweithle i gyflogwyr.