Unwaith ichi ailgofrestru eich staff, fe fydd gennych chi ddyletswyddau parhaus. Yna pob tair blynedd bydd gofyn ichi ailgofrestru staff penodol eto.
Bob tro y byddwch yn talu eich gweithwyr, dylech gwblhau’r tasgau canlynol:
Monitro oedran ac enillion eich staff
Mae'n rhaid ichi barhau i fonitro oedran a chyflog eich staff (gan gynnwys gweithwyr newydd) i weld oes angen ichi gofrestru unrhyw un ohonyn nhw ar gynllun pensiwn am y tro cyntaf. Nid oes angen ichi wneud hyn ar gyfer staff rydych wedi'u cofrestru ar gynllun pensiwn ac sydd wedi dewis dadgofrestru o'r cynllun, gan y byddwch yn eu hasesu yn ystod eich cyfnod ail-gofrestru nesaf.
Os oes gennych chi unrhyw staff sydd
- rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth*
- ac yn ennill dros £10,000 y flwyddyn, neu £833 y mis neu £192 yr wythnos
*Os ydych yn ansicr o oedran pensiwn y wlad, defnyddiwch y Cyfrifydd Pensiwn y Wlad
Rheoli ceisiadau i ddadgofrestru neu gofrestru gyda'ch cynllun
Os ydy unrhyw un o'ch staff yn dewis dadgofrestru o'ch cynllun pensiwn (optio allan) ymhen un mis o fod yn rhan o'r cynllun am y tro cyntaf, mae angen ichi roi'r gorau i ddidynnu arian o'u cyflog a threfnu ad-daliad llawn o'r hyn sydd wedi'i dalu hyd yn hyn. Mae'n rhaid ichi wneud hyn ymhen un mis o dderbyn eu cais.
Os ydy unrhyw un o'ch staff sydd â'r hawl i ofyn i fod yn rhan o'ch cynllun, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gymwys i gael eu cofrestru'n awtomatig, yn ysgrifennu atoch yn gofyn i fod yn rhan o'r cynllun, mae'n rhaid ichi eu cofrestru ar eich cynllun ymhen mis o dderbyn eu cais.
Bydd angen ichi gyfrannu tuag at y cynllun pensiwn os ydyn nhw:
- rhwng 16-74 oed
- ac yn ennill o leiaf £520 y mis neu £120 yr wythnos.
I ganfod faint sydd angen ichi ei dalu, fe ddylech chi ofyn i'ch darparwr cynllun pensiwn.
Cadw cofnodion
Fe ddylech chi barhau i gadw cofnodion o sut bu ichi fodloni eich dyletswyddau cyfreithiol, gan gynnwys:
- enwau a chyfeiriadau'r rheiny rydych wedi eu cofrestru ar gynllun pensiwn.
- Cofnodion sy'n dangos pryd gafodd taliadau eu cyflwyno i'r cynllun pensiwn.
- Unrhyw geisiadau i gofrestru â neu ddadgofrestru â'ch cynllun pensiwn.
- Eich cyfeirnod cynllun pensiwn neu rif cofrestru.
Mae'n rhaid ichi gadw'r cofnodion hyn am chwe blynedd oni bai am y ceisiadau i ddadgofrestru o'r cynllun pensiwn y bydd angen ichi eu cadw am bedair blynedd.
Cynnal a chadw cyfraniadau
Mae'n rhaid ichi barhau i gyfrannu'r taliadau sy'n ddyledus i'r cynllun pob tro byddwch yn prosesu'r gyflogres. Rydym yn monitro'r cyfraniadau caiff eu cyfrannu tuag at bensiynau'r gweithle a gallwn ddweud os na chaiff taliadau sy'n ddyledus eu cyfrannu at gynllun cofrestru awtomatig eich staff. Byddwn yn gweithredu os ydych yn methu â chydymffurfio gyda'ch dyletswyddau cyfreithiol parhaus, ac mae'n bosib y bydd angen ichi ôl-ddyddio unrhyw daliadau rydych wedi'u colli.
Eich proses ail-gofrestru nesaf
Pob tair blynedd bydd gofyn ichi ail-adrodd y camau rydych wedi'u cyflawni er mwyn ail-gofrestru rhai staff ar eich cynllun pensiwn, a bydd angen ichi ail-ddatgan er mwyn rhoi gwybod inni am y camau rydych wedi'u cyflawni. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi i egluro beth sydd angen ichi ei wneud ac erbyn pryd.
Darllen mwy am yr hyn sydd angen ichi ei wneud ar gyfer eich proses ail-gofrestru nesaf.
Gofalwch bod eich manylion cyswllt yn gywir er mwyn inni ysgrifennu at y person cywir ynghylch eich dyletswyddau parhaus a dyletswyddau ail-gofrestru. Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar-lein.