Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Ailgofrestru ac ailddatgan

Bob tair blynedd, rhaid i chi roi aelodau penodol o staff yn ôl yn eich cynllun pensiwn cofrestru awtomatig - yr enw ar hyn yw ailgofrestru. Dyma gam un mewn proses dwy gam.

Mae rhai camau penodol y bydd rhaid i chi eu rhoi ar waith er mwyn cyflawni eich dyletswyddau ailgofrestru. Pan fydd hi’n dair blynedd ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu, dylech asesu staff sydd wedi gadael eich cynllun i weld a ydynt yn bodloni’r meini prawf oedran ac enillion i gael eu hailgofrestru.

Wedyn mae’n rhaid i chi eu rhoi yn ôl yn eich cynllun pensiwn. Hefyd bydd rhaid i chi gynyddu’r cyfraniadau ar gyfer unrhyw staff sy’n talu llai na’r lefelau cyfrannu gofynnol. Ar ôl i chi wneud hyn, rhaid i chi ysgrifennu at y staff yma i ddweud wrthynt beth sy’n digwydd.

Yn olaf, mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i gwblhau ailddatganiad cydymffurfio i ddweud wrthym sut rydych wedi cyflawni eich dyletswyddau ailgofrestru, ac a fu raid i chi roi yn ôl yn eich cynllun ai peidio. Dym ail gam y broses.

Defnyddiwch yr adnodd dyletswyddau ailgofrestru ar wefan y Rheolydd Pensiynau i weld beth sydd angen i chi ei wneud.