Gan gyflwyno eich manylion yn y meysydd gofynnol, rydych yn caniatáu i'r Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) a'i ddarparwyr gwasanaeth i gynnig y gwasanaeth datganiad cydymffurfio cofrestru awtomatig ('y gwasanaeth'). Gan fanteisio ar wasanaethau ar-lein y Rheoleiddiwr Pensiynau rydych yn cytuno i gydymffurfio gyda'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig a'r rheiny sy'n berthnasol i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau. Caiff unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei chynnig i'r Rheoleiddiwr Pensiynau ond ei defnyddio gennym ni, ein hasiantiaid a darparwyr gwasanaeth a ni fyddwn yn datgelu'r wybodaeth oni bai bod yn rhaid inni neu ein bod ni wedi ein caniatáu'n gyfreithiol i wneud hynny.
Yn benodol, byddwch yn cytuno fod hawl gennym ni wneud y canlynol:
- Defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei chyflwyno i'r gwasanaeth yn ymwneud ag unrhyw waith gyda ni yn gysylltiedig ag unrhyw wasanaethau eraill yr ydych yn manteisio arnyn nhw
- newid y gwasanaeth, dileu agweddau o'r gwasanaeth neu ychwanegu at y gwasanaeth a'r cynnwys gwefan perthnasol (neu eu nodweddion) neu newid y ffordd y mae modd ichi fanteisio ar yr wasanaeth, i gyd heb rybudd
- adolygu'r telerau ac amodau o bryd i'w gilydd wrth inni ddatblygu'r gwasanaeth a chynnwys y gwefan (gwelwch newidiadau i delerau ac amodau)
- Defnyddio gwybodaeth o'r gwasanaeth mewn cysylltiad ag unrhyw un o'n swyddogaethau statudol
Argaeledd y Gwasanaeth
Gwybodaeth Gwarchod Data
Mae'r Rheoleiddiwr Pensiynau yn rheolwr data er dibenion y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) a'r Ddeddf Gwarchod Data 2018. Byddwn yn prosesu'ch data personol.
Mae cyflwyno'r wybodaeth ofynnol yn y datganiad cydymffurfio yn orfodaeth gyfreithiol o dan y Ddeddf Pensiynau 2008. Os byddwch yn methu â chwblhau a chyflwyno'ch datganiad cydymffurfio, mae'n bosib y byddwn yn dilyn camau gorfodi.
Pan fyddwch yn cynnig data personol unigolyn arall, gofynnwn ichi ofalu fod gennych chi'r caniatâd neu awdurdod angenrheidiol i wneud hynny
Mae'n bosib y byddwn yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gydag adrannau llywodraeth eraill neu gyrff cyhoeddus ond dim cyn inni gynnal asesiad effaith gwarchod data er mwyn gofalu fod eich hawliau wedi eu gwarchod. Nid ydym yn gwerthu, rhannu neu gynnig data personol er dibenion masnachol.
Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyn hired ag mae amserlen dargadw Y Rheoleiddwr Pensiynau yn caniatáu hynny. Yn ystod yr amser hwn, mae'n bosib ichi weithredu hawliau penodol yn ymwneud â'ch data personol fel yr hawl i fanteisio ar ddata, gwrthwynebu a'r gallu i symud data. Os ydych chi'n credu ein bod ni wedi ymdrîn â'ch data personol mewn ffordd sy'n anghyson gyda'ch hawliau, mae modd ichi gofnodi cwyn gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ('ICO').
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r datganiad preifatrwydd hwn neu sut yr ydym yn ymdrîn â'ch data personol, cysylltwch gyda'n Swyddog Gwarchod Data ('DPO') ar e-bost dpa@tpr.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom: Telecom House, 125-135 Preston Road, Brighton, BN1 6AF. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynghylch sut yr ydym yn defnyddio eich data personol a'i gadw'n ddiogel ynghyd â gwybodaeth am eich hawliau ar ein hysbysiad preifatrwydd.
Defnydd o gwcis
Rydym yn defnyddio 'cwcis' sy'n ddarnau o ddata wedi eu creu a'u storio ar eich gyriant caled pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau ar-lein.
Dysgu mwy am sut rydym yn defnyddio cwcis.